(This is an advertisement for a Lecturer in Engineering for which the ability to work in Welsh and English is essential)
CAMPWS PWLLHELI - SAFLE'R HAFAN. DARLITHYDD PEIRIANNEG.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion profiadol a chymwys i ymuno â thîm sy'n arbenigo ym maes peirianneg a morwrol i ddysgu peirianneg i lefel 3 BTEC neu tebyg i ddechrau ym Medi 2011. Bydd gan y deilydd llwyddiannus gymhwyster dysgu neu dylai fod yn fodlon i gymhwyso o fewn 2 flynedd o'r penodiad.
DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
Bydd y darlithydd yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr gyflawni hyd eithaf eu gallu.
Bydd ef/hi yn sicrhau hyn drwy:
A Addysgu a Rheoli'r Dysgu gan:
1. Ddarparu amrediad o ddulliau addysgu/dysgu priodol am 830 awr y flwyddyn (neu pro-rata yn achos swydd ffracsiynol).
2.
3. Darparu adborth adeiladol i fyfyrwyr.
4. Sicrhau iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd dysgu a rhoi gwybod i fyfyrwyr am drefnau iechyd a diogelwch.
5. Darparu cefnogaeth fel tiwtor academaidd.
6. Symbylu datblygiad cwricwlaidd, a'i weithredu, fel y bo'n briodol.
7. Defnyddio system gyfeirio'r Coleg i ddarparu cefnogaeth ddysgu a chefnogaeth fugeiliol lle y bo'n briodol.
8. Trefnu a chynnal profion, asesiadau ac arholiadau allanol fel y bo angen, yn unol â chanllawiau'r Bwrdd Dyfarnu.
9. Adolygu pa mor berthnasol yw'r cwricwlwm, y meysydd llafur a'r adnoddau i fyd gwaith neu o ran dilyniant addysgol myfyrwyr.
B Bod yn aelod effeithiol o dîm drwy:
1. Fynychu cyfarfodydd tîm yn rheolaidd.
2. Cydweithio mewn tîm.
3. Cynnal cysylltiadau cyfathrebu.
4. Rhoi cyngor a gwybodaeth fel y bo'n briodol.
C Darparu gwasanaethau er mwyn bod yn gefn i fyfyrwyr drwy:
1. Gyfrannu i strategaeth farchnata'r Coleg.
2. Cynorthwyo i gofrestru a derbyn myfyrwyr.
3. Darparu cyngor, arweiniad, trefniadau cynefino a sesiynau cwnsela.
4. Cofrestru myfyrwyr ar gyfer arholiadau/asesiadau.
5. Cadw cofnodion cywir a chyfredol, yn cynnwys defnyddio'r system gofrestru gyfrifiadurol.
6. Darparu data er mwyn paratoi dangosyddion perfformiad ar gyfer cyrsiau, meysydd cwricwlwm a modiwlau.
7. Sicrhau y cydymffurfir â phob agwedd ar System Ansawdd y Coleg.
8. Cysylltu â chyrff neu asiantaethau allanol, yn cynnwys cyrff dilysu ac arholi, cyrff proffesiynol, addysgol a chyllidol, ynghyd â chyflogwyr.
9. Trefnu profiad gwaith i fyfyrwyr a goruchwylio yn ôl y galw, gan ddilyn trefnau y cytunwyd arnynt.
D Gweithio mewn partneriaeth â'r Coleg, gan ysgwyddo'r cyfrifoldeb o gynnal eich datblygiad personol er mwyn cefnogi anghenion y dysgwyr, drwy:
1. Gymryd rhan mewn cynlluniau gwerthuso ac adnabod anghenion hyfforddi a datblygu.
2. Manteisio ar weithgareddau datblygu staff perthnasol.
3. Diweddaru sgiliau proffesiynol ac arbenigedd ym maes diwydiant neu fasnach.
4. Mynd ar secondiad neu brofiad gwaith, neu gymryd rhan mewn cynlluniau cyfnewid, mewn lleoliad diwydiannol neu addysgol lle y bo'n briodol.
5. Diweddaru cymwysterau proffesiynol, cymwysterau addysgol a chymwysterau hyfforddi fel y bo'n briodol.
6. Ymuno â chyrff proffesiynol lle y bo'n briodol.
7. Sicrhau'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau addysgol a phroffesiynol.
E Dyletswyddau Penodol
1. Bod yn Gydlynydd Cwrs a Thiwtor Personol yn ôl y galw.
F Dyletswyddau Eraill
Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gall y Cyfarwyddwr Cwricwlwm/Safle, y Rheolwr Rhaglen neu'r Pennaeth ofyn i chi eu cyflawni.
MANYLEB DEILIAD Y SWYDD:
Gofynion Hanfodol:
1. Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn maes perthnasol.
2. Cymhwyster addysgu neu barodrwydd i ennill y cymhwyster o fewn dwy flynedd i'r penodiad, a phrofiad o addysgu mewn maes perthnasol.
3. Y gallu i ddefnyddio systemau a rhaglenni TG.
4. Y gallu i uniaethu â gwahanol ddysgwyr, ac ymrwymiad i gyfle cyfartal.
5. Sgiliau trefnu, sgiliau rhyngbersonol a sgiliau cyfathrebu da.
6. Hyblygrwydd a sgiliau gweithio mewn tîm.
7. Y gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Gofynion Dymunol:
1. Profiad o weithio mewn amgylchedd Addysg Bellach/Uwch.
2. Gwybodaeth a phrofiad o ddefnyddio technoleg ddysgu.
3. Gradd uwch mewn maes perthnasol.
SALARY
£21,719 - £34,175 y flwyddyn
For more information please follow the link below
http://www.marineresources.co.uk/DARLITHYDD_PEIRIANNEG_WAL.htm
No comments:
Post a Comment