Tuesday 3 May 2011

WORKSHOP MANAGER - GORUCHWYLYDD GWEITHDY - WALES

CAMPWS PWLLHELI - SAFLE'R HAFAN. GORUCHWYLYDD GWEITHDY.

(This is an advertisement for a Workshop Supervisor for which the ability to work in Welsh and English is essential) DYDDIAD CAU DERBYN CEISIADAU: HANNER DYDD AR DDYDD IAU, 28AIN EBRILL 2011

Mae'r swydd hon yn cynnwys cyswllt uniongyrchol â myfyrwyr/hyfforddai mewn amgylchedd gweithdy am 28 awr yr wythnos ar gyfartaledd (oddeutu 1120 awr y flwyddyn)

PRIF BWRPAS

Goruchwylio a chefnogi yng ngweithdy'r adran peirianneg morwrol a bod yn gyfrifol am gynnal a chadw cyfleusterau dysgu a hyfforddi, yn cynnwys cyfarpar, peiriannau ac offer.
PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU:

   1. Goruchwylio myfyrwyr a hyfforddeion sy'n meithrin eu sgiliau ymarferol yn yr amgylchedd gweithdy, gan gynnig arweiniad, cyngor a chefnogaeth iddynt.
   2. Cofnodi presenoldeb, rhoi gwybod i aelodau'r tîm am absenoldebau a chynnydd, a chynnal disgyblaeth effeithiol yn y gweithdy.
   3. Asesu medrau ymarferol sy'n berthnasol i NVQs a C&G yn y gweithdy ac mewn amgylchedd gweithdy.
   4. Paratoi deunyddiau, yn cynnwys cynlluniau gwersi a dogfennau/taflenni eraill a gweithfannau ac ati, fel y bo'n briodol.
   5. Arddangos sgiliau sy'n ofynnol mewn perthynas ag NVQs.
   6. Sicrhau arferion gweithdy da o ran Iechyd, Diogelwch a Lles dysgwyr ac ymwelwyr.
   7. Darparu adroddiadau ac adborth ar gynnydd pob dysgwr unigol.
   8. Goruchwylio mewn sesiynau ymarferol a gynhelir i bwrpas arholi.
   9. Bod yn gyfrifol am arferion gweithdy da drwy sicrhau bod yr holl fannau gwaith yn ddiogel ac yn daclus, gan ddarparu amgylchedd gweithio glân, heb beryglon a rhwystrau, i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.
  10. Bod yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl ddogfennau, yn cynnwys logiau cynnal a chadw a gwiriadau cyn-defnyddio ac ati, yn gyflawn, yn gywir ac ar gael i'w harchwilio bob amser, er mwyn cydymffurfio â chanllawiau iechyd a diogelwch.
  11. Bod yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl beiriannau, cyfarpar ac offer yn addas ac yn ddiogel i'w defnyddio.
  12. Bod yn gyfrifol am sicrhau bod y defnydd gorau'n cael ei wneud o wahanol rannau'r gweithdy, gan eu datblygu fel y bo'n briodol i gwrdd â newidiadau yn y modd y cyflwynir y cwricwlwm.
  13. Sicrhau bod safonau ansawdd yn cael eu cynnal, a gwneud gwelliannau yng ngwahanol rannau'r gweithdy.

CYFFREDINOL

   1. Cyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill ar gais Pennaeth y Rhaglen neu Uwch-reolwr.
   2. Diweddaru gwybodaeth ac ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn cydymffurfio â safonau ac arferion gorau'r diwydiant.
   3. Ymdrin ag ymholiadau cyffredinol sy'n ymwneud â'r adran.
   4. Cydymffurfio â pholisïau a rheoliadau, systemau a threfnau'r safle.
   5. Cynnal cysylltiadau gweithio addas, gan gymryd rhan weithredol yng nghyfarfodydd a gwerthusiadau'r adran.
   6. Ufuddhau i ofynion COSHH wrth ddefnyddio a storio'n ddiogel sylweddau sy'n peryglu iechyd.
   7. Gweithio'n unol â'r gofynion Iechyd a Diogelwch gydol yr amser, a bod yn batrwm i eraill mewn perthynas ag arferion gweithio da.

MANYLEB DEILIAD Y SWYDD:

Nodweddion Hanfodol:

   1. Gwybodaeth cyfredol da o sgiliau adeiladu cychod fodern
   2. Meddu ar yr awydd i wella sgiliau'r holl dysgwyr
   3. Crefft berthnasol/profiad ymarferol yn y diwydiant a/neu gymhwyster hyd at NVQ lefel 3, neu gymhwyster cyfatebol.
   4. Agwedd frwdfrydig, fywiog a chadarnhaol tuag at waith.
   5. Ymrwymiad i ddatblygu darpariaeth o safon.
   6. Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol da ar bob lefel.
   7. Y gallu i deithio o safle i safle ac i weithleoedd cyflogwyr a lleoliadau eraill yn ôl y galw, er mwyn cynorthwyo gyda digwyddiadau ymarferol.
   8. Bod yn berchen ar Ddyfarniad Asesydd e.e. TDLB, D32 a D33, neu ddyfarniad A1, neu bod yn barod i weithio tuag at ennill cymhwyster o'r fath ymhen 12 mis.    
   9. Sgiliau trefnu ardderchog.
  10. Cymhwyster Iechyd a Diogelwch/gwybodaeth o'r rheoliadau Iechyd a Diogelwch cyfredol.
  11. Sgiliau rheoli amser.
  12. Agwedd hyblyg tuag at waith, gan fod yn barod i weithio gyda'r nos yn achlysurol yn ogystal â bod yn ddigon hyblyg i ymateb i newid mewn blaenoriaethau ar fyr rybudd.
  13. Y gallu i weithio'n annibynnol yn ogystal ag mewn tîm.
  14. Gwybodaeth a phrofiad o ddulliau cyflwyno ac asesu NVQs a C&G.
  15. Sgiliau ymarferol cadarn o ran cynnal a cadw peiriannau ac ati mewn amgylchedd gweithdy proffesiynol.

Nodweddion Dymunol:

   1. Gwybodaeth gyfredol dda o anghenion y diwydiant yn lleol.
   2. Y gallu i gefnogi arddulliau addysgu arloesol.
   3. Sgiliau TG da.
   4. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
   5. Cymhwyster Cymorth Cyntaf.
   6. Diddordeb mewn datblygu sgiliau ymarferol myfyrwyr hyd eithaf eu gallu a diddordeb byw yn natblygiad addysgol a phersonol pobl ifanc.
   7. Profiad priodol o oruchwylio.



SALARY

£21,719 - £34,175 y flwyddyn

For more information please follow the link below

http://www.marineresources.co.uk/GORUCHWYLYDD_GWEITHDY_WALES.htm

No comments:

Post a Comment